Yn dilyn cyhoeddi rhybudd tywydd gwael rydym wedi penderfynu cau POB safleoedd Cambria.
Dyddiad: 10 / 03 / 23
pwysig
Bydd gwersi'n symud ar-lein yn unol â'r amserlenni presennol.
Bydd ein staff yn gweithio o bell a byddant yn dal ar gael i fyfyrwyr a phrentisiaid trwy e-bost a ffôn yn ystod yr amser hwn.
Dylai myfyrwyr a phrentisiaid fewngofnodi i Google Classroom i gael mynediad at wersi a fydd yn digwydd yn rhithwir.
Rhaid i unrhyw fyfyriwr sy'n cael trafferth cael mynediad i'w gwersi gysylltu â'i diwtor yn uniongyrchol trwy e-bost i sicrhau nad yw'n cael ei nodi'n absennol o'r wers.
Arhoswch y tu fewn, mewngofnodwch a chwblhewch eich gwersi (fel na fyddwch ar ei hôl hi gyda'ch astudiaethau) ac yn bwysicaf oll arhoswch yn ddiogel.
Pryd a ble i wirio yn ôl am ddiweddariad?
Byddwn yn diweddaru ein prif wefan coleg, Hyb Myfyrwyr, Ap Cambria a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol felly gwiriwch yn ôl yn rheolaidd am ragor o wybodaeth a diweddariadau pellach.
Diweddariad Arholiadau
Os oeddech i fod i gael arholiad sydd wedi'i effeithio o ganlyniad i Gau'r Coleg darllenwch isod.
Arholiadau cyffredinol ar-lein - bydd y rhain yn cael eu haildrefnu i sesiwn arall cyn gynted â phosibl, bydd hyn yn cael ei gyfathrebu â'ch tiwtor, os oes gennych unrhyw broblemau trafodwch hyn gyda'ch tiwtor.
Arholiadau Technegol City and Guilds - Yn anffodus, bydd gofyn i chi aros tan sesiwn mis Mehefin i sefyll yr arholiad hwn, os oes gennych unrhyw broblemau trafodwch hyn gyda'ch tiwtor.
Dewiswch opsiwn i gael mynediad iddo:
Yr wyf yn y tu allan i o rwydwaith y Coleg
Yr wyf yn y tu mewn rhwydwaith y Coleg
×