Gofynnir i chi wirio'ch hunaniaeth trwy ddarparu rhywfaint o wybodaeth bersonol fel eich cod post neu eich dyddiad geni
Bydd yr aelod o staff yn cadarnhau bod eich cyfrinair wedi'i ailosod ac yn rhoi'r cyfrinair newydd i chi
Y tro nesaf y byddwch yn mewngofnodi gyda'r cyfrinair newydd, gofynnir i chi newid eich cyfrinair i rywbeth arall
Cofiwch ddefnyddio cyfrinair cryf; mwy nag 12 nod, gyda chyfuniad o brif lythrennau a llythrennau bach, rhifau, a chymeriadau arbennig fel !? &%
Cadwch eich cyfrinair yn ddiogel ac yn breifat. Peidiwch byth ag ailddefnyddio'r un cyfrinair â gwasanaethau ar-lein eraill. Peidiwch â rhannu eich cyfrinair gyda ffrindiau neu gyd-ddisgyblion.