Wedi ein lleoli ym mhob safle yng Ngholeg Cambria, rydym yn dîm croesawgar a phrofiadol, sy’n gallu cynnig gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar bob agwedd ar eich taith yma yn y coleg.
Fel arfer wedi'n lleoli ger y Dderbynfa, rydym yn hawdd i'w hadnabod ac edrychwn ymlaen at gwrdd â chi wrth i chi deithio trwy'ch profiad fel dysgwr.
P'un a ydych angen cymorth gyda thrafnidiaeth, cyllid, cyngor gyrfa, neu iechyd a lles cyffredinol, rydym yma i helpu.
Rydym am i'ch amser yn y coleg fod mor bleserus â phosibl, os oes unrhyw beth yn amharu ar hyn dewch i siarad â ni. Gallwn ddod o hyd i atebion a gweithio gydag amrywiaeth o staff i'ch helpu i deimlo'n fwy cadarnhaol.
Galwch i mewn i'n gweld, anfonwch neges atom trwy Live Chat (ar waelod ochr dde'r sgrin), e-bost gwasanaethau.myfyrwyr@cambria.ac.uk. neu ffoniwch 0300 30 30 007.
Dewiswch opsiwn i gael mynediad iddo:
Yr wyf yn y tu allan i o rwydwaith y Coleg
Yr wyf yn y tu mewn rhwydwaith y Coleg
×