Iechyd Meddwl a Lles

Yng Ngholeg Cambria, rydym yn cymryd agwedd ragweithiol tuag at iechyd a llesiant. Mae ystod eang o weithdai wedi'u cynllunio trwy gydol y flwyddyn academaidd i helpu a chefnogi staff a myfyrwyr.

Rydym yn gobeithio annog pawb i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a'u llesiant eu hunain.

Ein nod yw:

  • Adeiladu ymwybyddiaeth
  • Gwella llesiant
  • Cefnogi ac annog staff a myfyrwyr i fabwysiadu a chynnal ymddygiadau iach

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen cefnogaeth e-bostiwch lles@cambria.ac.uk.

Porth Iechyd a Llesiant

Mae adroddiadau Porth Iechyd a Llesiant, ochr yn ochr â'r Calendr Digwyddiadau, yn cynnwys manylion am bynciau fel clinigau gwirio iechyd, sesiynau gwybodaeth, manylion am swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl, gweithgareddau corfforol sydd ar gael i staff a myfyrwyr a gwybodaeth ac addysg i helpu i gadw iechyd a lles.

Hybiau Llesiant

Mae'r Hybiau Llesiant wedi'u cynllunio i gefnogi unigolyn neu grwpiau yn gorfforol, yn emosiynol, yn ddeallusol a gyda hunanofal/cefnogaeth, sef yr ethos y tu ôl i addysgu a darparu ein sesiynau Cambria Heini i'r Meddwl, y Corff a'r Enaid, gan addysgu unigolion i gael agwedd gyfannol tuag at eu llesiant. Gall staff a myfyrwyr ddefnyddio'r hybiau i ddatblygu neu gael eu cefnogi gan staff sydd â chydbwysedd o'u llesiant eu hunain, yn y meysydd nad ydyn nhw'n gytbwys ynddynt.

Mae'r Hybiau Llesiant wedi'u lleoli ar safle Iâl wrth ymyl Gwasanaethau Myfyrwyr.

Cliciwch I Ddarganfod Mwy Am Yr Hybiau Llesiant

Cambria Heini

Mae gan y Coleg weledigaeth i gynnwys ein holl fyfyrwyr i ddod yn heini, yn iach ac yn ystyriol.

Mae Cambria Heini yn cefnogi'r weledigaeth hon trwy gynnig gweithgareddau ffitrwydd, llesiant ac iechyd a diwrnodau cyngor am ddim i bob myfyriwr yng Ngholeg Cambria, trwy gydol y flwyddyn. Mae'n ymgysylltu a'ch cefnogi chi i newid unrhyw arferion gwael yn rhai da a dod yn heini yn ystod eich amser yma. Rydyn ni wedi gweld llawer o fyfyrwyr yn ffynnu o'r cyfleoedd a roddir iddyn nhw, megis cynnydd mewn hyder, gwell datblygiad emosiynol a cholli pwysau. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys pilates, ioga, pwysau, ymwybyddiaeth ofalgar, pêl-droed, tenis bwrdd a llawer mwy.

I ddarganfod beth sydd ar gael i chi, ymunwch â chymuned Google Cambria Heini ar gyfer eich safle, edrychwch ar y wefan neu edrychwch ar ein sgriniau teledu ar draws y safle.

Iechyd Meddwl

Mae'r Coleg wedi ymrwymo i gefnogi llesiant meddwl pob un o'n myfyrwyr a gallwn ni gynnig gwahanol fathau o help a chyngor. Dewch i ymweld â thudalennau hwb Cymorth Iechyd Meddwl tudalen i ddarganfod rhagor.

Llesiant ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol

Sylwadau neu Awgrymiadau

    Cysylltu â ni

    Mynnwch yr Ap Myfyrwyr

    Defnyddiwch y cod QR i lawrlwytho'r App Myfyrwyr

    Ap Myfyrwyr

    © Coleg Cambria 2024.

    Monitor Pro

    Dewiswch opsiwn i gael mynediad iddo:

    Yr wyf yn y tu allan i o rwydwaith y Coleg

    Yr wyf yn y tu mewn rhwydwaith y Coleg

    ×