Gall bod yn ofalwr neu'n ofalwr ifanc gael effaith andwyol ddifrifol ar addysg myfyriwr. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad emosiynol, addysgol a phersonol gofalwyr a gofalwyr ifanc i'w galluogi i ddyheu a chyflawni mewn addysg waeth beth fo'u cymhlethdodau eu hanghenion personol a'u hamgylchiadau gartref. Oherwydd eu bod yn cael anhawster i gydbwyso eu cyfrifoldebau gofal gartref â disgwyliadau yn y coleg, mae gofalwr ifanc yn debygol o brofi unrhyw un neu ragor o'r canlynol yn rheolaidd:
Bod yn hwyr neu'n absennol oherwydd cyflawni cyfrifoldebau gofal gartref
Diffyg amser i gwblhau gwaith cwrs ar amser neu o gwbl
Problemau corfforol fel poen cefn yn sgil codi neu ddyletswyddau gofal corfforol eraill
Mae Coleg Cambria yn ymrwymo bod y gefnogaeth ganlynol ar gael i bob gofalwr a gofalwr ifanc yn y coleg:
Mae gan Goleg Cambria arweinydd a chysylltydd/cynrychiolydd gofalwr a gofalwr ifanc.
Bydd unrhyw fyfyriwr sy'n cael ei nodi fel gofalwr neu ofalwr ifanc tra bydd yn y Coleg yn cael ei gyfeirio at wasanaethau priodol yn amodol ar ei gydsyniad.
Bydd y Coleg yn hyblyg gyda phresenoldeb hwyr yn achlysurol oherwydd rôl gofalu gofalwr a gofalwr ifanc; lle mae hyn yn digwydd yn rheolaidd, bydd darpariaeth hwyrni yn cael ei rhoi ar waith i ddod o hyd i ateb sy'n cydymffurfio â'r holl bolisïau cyfredol.
Bydd Coleg Cambria bob amser yn hyblyg o ran materion gofalwyr a gofalwyr ifanc a'u hanghenion yn cynnal cyfrinachedd.
Bydd Coleg Cambria yn sicrhau bod gofalwyr a gofalwyr ifanc yn gallu cyrchu'r holl wasanaethau cymorth bugeiliol a chymorth arall yn y coleg.
Bydd y Coleg yn rhoi cyfleoedd i ofalwyr a gofalwyr ifanc siarad â rhywun yn breifat ac ni fyddant yn trafod eu sefyllfa o flaen eu cyfoedion.
Bydd Coleg Cambria yn galluogi i ofalwyr a gofalwyr ifanc ddefnyddio'r ffôn yn ystod egwyliau ac amser cinio i ffonio adref os ydyn nhw'n teimlo bod angen gwneud hynny.
Bydd Coleg Cambria yn ceisio trafod terfynau amser rhesymol gyda gofalwyr a gofalwyr ifanc ar gyfer cwblhau a chyflwyno gwaith cwrs (pan fo angen).
Bydd y Coleg yn darparu mynediad i rieni â nam symudedd.
Siaradwch ag un o'r cynghorwyr mewn Gwasanaethau Myfyrwyr neu anfonwch e-bost atom ni ar youngcarers@cambria.ac.uk.
Mae dolen i Bolisi Oedolion Ifanc Gofalwyr y coleg ar gael yma – Saesneg | Cymraeg