Yma yng Ngholeg Cambria mae gennym ni gysylltiadau da, gyda chludiant ar gael o amrywiaeth eang o gyrchfannau ar draws Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Nid yn unig hynny; os ydych yn fyfyriwr llawn amser neu addysg uwch, rydym yn cynnig *cymhorthdal trafnidiaeth darparu naill ai teithio ar fws Coleg dynodedig neu docyn bws cyhoeddus Arriva bob tymor.
I fod yn gymwys am gymhorthdal trafnidiaeth bydd angen i chi fyw dros 3 milltir o safle'r coleg agosaf gan gyflwyno'ch dewis o gwrs*. Os byddwch chi'n teithio ar eich beic, bydd gennych chi raciau beiciau yn y rhan fwyaf o safleoedd.
* yn amodol ar gymhwysedd
I wirio cymhwysedd galwch heibio Gwasanaethau Myfyrwyr neu e-bostiwch trafnidiaeth@cambria.ac.uk.
Amserlenni Bws
Os na allwch ddod o hyd i'ch llwybr, peidiwch â phoeni! Rydyn ni wrth law i ddod o hyd i'r ffordd gyflymaf a hawsaf i chi gyrraedd ni. Ffoniwch ni yn
0300 30 30 007 a byddwn yn rhoi'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch i deithio'n ddiogel i'r coleg ac oddi yno. Gallwch hefyd weld amserlenni bysiau’r coleg a mannau codi gan ddefnyddio’r lawrlwythiadau defnyddiol isod:
Amseroedd Gadael Bws
Dydd Llun i ddydd Iau:
Glannau Dyfrdwy am 5.00pm
Llaneurgain am 4.30pm
Llysfasi am 4.30pm
Iâl am 5.00pm
Dydd Gwener:
Glannau Dyfrdwy am 4.15pm
Llaneurgain am 3.45pm
Llysfasi am 4.15pm
Iâl am 4.30pm
Cofiwch:
• Ni chaniateir i chi deithio ar fysiau coleg oni bai eich bod yn dangos eich tocyn bws (ar ôl wythnosau cyntaf y tymor).
• Rhaid i chi ymddwyn mewn ffordd nad yw'n digio pobl eraill wrth deithio ar fysiau'r coleg. Os byddwch chi'n camymddwyn ar fysiau'r coleg, dilynir y weithdrefn ddisgyblu ac efallai y bydd eich tocyn bws yn cael ei dynnu oddi arnoch chi.
• Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cyrraedd cyn yr amser casglu a nodwyd, gan na fydd y bws yn aros amdanoch chi.
Cludiant Ffôn Ar Alwad
Ymholiadau Cludiant Cyffredinol? Ffoniwch -
0300 30 30 007
Problem gyda Chludiant eich Coleg? Ffoniwch y Llinell Ffôn Trafnidiaeth - 01978 515 454
Ymholiadau e-bost - Trafnidiaeth@cambria.ac.uk
7am – 9am a 4pm – 6:30pm – dydd Llun i ddydd Gwener.
Dewiswch opsiwn i gael mynediad iddo:
Yr wyf yn y tu allan i o rwydwaith y Coleg
Yr wyf yn y tu mewn rhwydwaith y Coleg
×