Sgiliau yn Cambria

Yng Ngholeg Cambria, mae pob myfyriwr amser llawn yn cael ei gefnogi i ddatblygu eu sgiliau Mathemateg a Saesneg, waeth beth fo’u lefel gychwynnol. Dyma sut rydym yn eich helpu i gyflawni llwyddiant:

Ar gyfer Myfyrwyr Heb Radd A*-C (9-4) mewn TGAU Mathemateg a/neu Saesneg/Cymraeg Iaith:

Os byddwch yn ymuno heb radd A*- C (9-4) mewn TGAU Mathemateg a/neu Saesneg/Cymraeg Iaith, byddwch yn dilyn llwybr wedi'i deilwra i feithrin eich sgiliau ac ennill cymhwyster a gydnabyddir yn ffurfiol.

  . Gallai’r llwybr hwn gynnwys:

  • Cyrsiau TGAU mewn Mathemateg a/neu Saesneg/Cymraeg Iaith
  • Llwybrau Sgiliau Hanfodol Cymru (SHC), yn canolbwyntio ar sgiliau ymarferol Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg

Bydd eich dyraniad i sesiynau TGAU neu SHC yn dibynnu ar eich anghenion galwedigaethol a'ch nodau gyrfa neu addysg yn y dyfodol.

Ar gyfer Myfyrwyr sydd â Gradd A*-C (9-4) neu Uwch

Os ydych eisoes wedi ennill gradd A*- C (9-4) neu uwch mewn TGAU Mathemateg a/neu Saesneg/Cymraeg Iaith, mae Coleg Cambria yn cynnig cyfleoedd i wella eich sgiliau ymhellach drwy:

  • Cymwysterau SHC Uwch, fel Llythrennedd Digidol neu Sgiliau Cyflogadwyedd, wedi'u cynllunio i roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi neu addysg uwch.

Mae’r dull cynhwysfawr hwn yn sicrhau bod pob myfyriwr yng Ngholeg Cambria yn gallu datblygu eu galluoedd Mathemateg a Saesneg mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u nodau a’u dyheadau.

I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch Tîm Sgiliau Cambria yn sgiliau@cambria.ac.uk.

Esboniad o'r Mathau o Gymwysterau Gwahanol

Cliciwch isod i ddarganfod y gyrfaoedd y gallwch eu dilyn trwy astudio Sgiliau yn Cambria…

Cyrsiau am Ddim 

Mae'r cyrsiau rhad ac am ddim hyn mewn mathemateg a Saesneg wedi'u llunio i'ch ysbrydoli i wella'ch sgiliau mathemateg a Saesneg presennol a'ch helpu chi i gofio unrhyw feysydd rydych chi efallai wedi'u hanghofio.

Dolenni

Sylwadau neu Awgrymiadau

    Cysylltu â ni

    Mynnwch yr Ap Myfyrwyr

    Defnyddiwch y cod QR i lawrlwytho'r App Myfyrwyr

    Ap Myfyrwyr

    © Coleg Cambria 2025.

    Monitor Pro

    Dewiswch opsiwn i gael mynediad iddo:

    Yr wyf yn y tu allan i o rwydwaith y Coleg

    Yr wyf yn y tu mewn rhwydwaith y Coleg

    ×